Cofnodion y cyfarfod diwethaf
9 Chwefror 2016
12:30-13:20
Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel
YN BRESENNOL: |
||
|
||
David Rees AC (Cadeirydd) |
DR |
Aberafan (Llafur Cymru) |
Bethan Jenkins AC |
BJ |
Gorllewin De Cymru (Plaid Cymru) |
Llyr Gruffydd |
LlG |
Gogledd Cymru (Plaid Cymru) |
|
||
Ioan Bellin |
IBFC |
Staff cymorth Simon Thomas AC |
|
||
Katie Dalton (Ysgrifennydd) |
KD |
Gofal |
Rebekah Burns |
CA |
Bipolar UK |
Suzanne Duval |
SD |
Diverse Cymru |
Rhiannon Hedge |
RH |
Mind Cymru |
Richard Jones |
RJ |
Mental Health Matters Wales |
Peter Martin |
PM |
Hafal |
Sara Moseley |
SM: |
Mind Cymru |
Sarah Stone |
SS |
Y Samariaid |
Manel Tippett |
MT |
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru |
Alex Vostanis |
AV |
BACP |
CPGMH/NAW4/53 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau i’w cymryd |
Croesawodd DR bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl.
Ymddiheuriadau: · David Melding AC (Ceidwadwyr Cymreig) · Simon Thomas AC (Plaid Cymru) · Ewan Hilton - Gofal · Alun Thomas (Hafal) |
|
CPGMH/NAW4/54-Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol Blynyddol |
|
CYMERADWYWYD Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl. |
KD i’w anfon i'r Swyddfa Gyflwyno |
CPGMH/NAW4/55 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau i’w cymryd |
CYMERADWYWYD Cofnodion y cyfarfod diwethaf. |
KD i’w anfon i'r Swyddfa Gyflwyno |
CPGMH/NAW4/56 – Y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf |
Camau i’w cymryd |
Rhoddodd KD y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf.
CPGMH/NAW4/49 – Ciplun 3: Profiadau pobl o wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol yng Nghymru CAM I’W GYMRYD: KD i'w anfon at yr aelodau. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Wedi'i gwblhau
CPGMH/NAW4/50 – Beth am Siarad â Fi 2 CAM I’W GYMRYD: KD i ddosbarthu'r linc i Beth am Siarad â Fi 2 pan gaiff ei gyhoeddi. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Wedi'i gwblhau
CPGMH/NAW4/51 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: cynllun cyflawni 2 CAM I’W GYMRYD: KD i ofyn i Aelodau yn y grŵp trawsbleidiol i gyflwyno cwestiynau i’r holl Weinidogion am y modd y maent wedi cyfrannu at gyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Wedi'i gwblhau. Mae cwestiynau wedi'u cyflwyno.
CPGMH/NAW4/52 – Hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl CAM I’W GYMRYD: Staff cymorth i gysylltu ag IB os oes ganddynt ddiddordeb cymryd rhan yn yr hyfforddiant Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Diolch i Ioan Bellin am drefnu hyn - cafwyd ymateb da i’r hyfforddiant. |
|
Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2016-19 |
Camau i’w cymryd |
TRAFODWYD Esboniodd KD fod y cynllun cyflawni arfaethedig, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar gyfer 2016-19 wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar i ymgynghori’n gyhoeddus yn ei gylch.Trafododd yr Aelodau gynnwys y cynllun cyflawni drafft gan godi’r materion a ganlyn: · Mae angen i’r mesurau perfformiad yn y cynllun cyflawni ddweud wrthym a yw’r cynllun yn cael ei weithredu’n llwyddiannus ac yn gwella bywydau pobl. · Mae mwy o fesurau canlyniad yn y cynllun cyflawni hwn – ond mae angen rhagor ohonynt ac mae angen cynnwys y canlyniadau cywir. · Dylai'r mesurau perfformiad ar gyfer pob maes gwasanaeth gynnwys barn cleifion am eu canlyniadau; a oeddent yn fodlon ar y gwasanaeth; ac a gawsant eu trin â dealltwriaeth, cydymdeimlad, urddas a pharch. · Gwariant ar iechyd meddwl – mae angen gwella tryloywder a chysylltu gwariant â chanlyniadau. A yw’r buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl? Mae angen olrhain hyn dros amser i benderfynu a yw gwariant yn arwain at well canlyniadau neu a ydynt yn gwaethygu. Mae adroddiad diweddar am glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl yn cadarnhau hyn.
Gwnaed pwyntiau penodol am yr amcanion a ganlyn yn y cynllun cyflawni: · 5.5 Gofal mewn argyfwng - dylid cynnwys rhagor o fesurau perfformiad yn unol â’r Concordat Gofal Argyfwng newydd i Gymru - fel lleihau’r defnydd o gelloedd yr heddlu, datblygu lleoedd diogelwch amgen, a mesurau boddhad cleifion, canlyniadau, urddas a pharch. · 6.2 Iaith - dim ond at y Gymraeg y mae’n cyfeirio – dylid cynnwys iaith arwyddion ac ieithoedd cymunedol eraill. · 7.1 Cyswllt seiciatrig iechyd meddwl – croesewir cyswllt seiciatrig yn yr holl DAGs ond mae problemau o ran y gweithlu - cadw, recriwtio, adnoddau. · 7.2 Therapïau seicolegol – roedd yr Aelodau’n croesawu’r cynnig i gynnwys amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol oherwydd gwyddom fod hwn yn bryder i lawer – ond mae ffactorau eraill yn bwysig, a dylid cynnwys y rhain hefyd. Er enghraifft: cynnig therapïau seicolegol gwahanol, eu cynnig yn Gymraeg, nifer y sesiynau a gynigir, a’r canlyniadau/effaith ar iechyd meddwl pobl a’u hadferiad. · 7.6 Anhwylderau bwyta – dim ond un mesur perfformiad er bod Aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta wedi cynnig nifer o awgrymiadau. Dylai gynnwys mesurau boddhad cleifion, canlyniadau, urddas a pharch; hyder a sgiliau ymarferwr, datblygu'r gweithlu, amseroedd aros ar gyfer triniaeth a chymorth. · 7.9 Yr ystâd ddiogel – yr ystyriaeth allweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf fydd y carchar newydd yn Wrecsam – a rhoi adnoddau ar waith. Helpu i bontio rhwng y carchar a’r cartref a sicrhau bod pobl yn gallu byw yn iach yn eu cymunedau. |
|
CPGMH/NAW4/58 - Y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) |
Camau i’w cymryd |
TRAFODWYD Roedd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn cynnwys Dyletswydd i Adolygu’r modd y caiff ei roi ar waith. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys ystyried ymchwil annibynnol, adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, tystiolaeth gan y trydydd sector a chyrff proffesiynol, mesurau perfformiad meintiol a gwaith craffu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ôl y broses ddeddfu. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad terfynol yn ddiweddar ac mae’n cynnwys yr argymhellion a ganlyn: · Diwygiwyd y rheoliadau i: - ehangu'r rhestr o weithwyr iechyd proffesiynol a gofrestrir â chorff proffesiynol rheoleiddiedig sy’n gallu cynnal asesiad gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol - ehangu'r rhestr o weithwyr iechyd proffesiynol a gofrestrir â chorff proffesiynol rheoleiddiedig sy’n gallu ymgymryd â rôl cydgysylltu gofal · Diwygiwyd rhan 3 o'r Mesur i: - sicrhau nad oes terfyn oed ar y rhai sy’n gallu gofyn am ail asesiad o'u hiechyd meddwl - ymestyn y gallu i ofyn am ail asesiad i bobl y mae’r claf yn eu henwi · O 2016 ymlaen, yr holl fyrddau iechyd i gynnwys y canlynol yn eu hadroddiadau blynyddol ar gyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: - Casgliadau arolygon bodlonrwydd gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a chynlluniau gofal a thriniaeth yn ogystal â’r archwiliad cynhwysfawr o gynlluniau gofal a thriniaeth gan gynnwys i ba raddau y maent yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg - mesurau canlyniad ar gyfer y rhai sydd wedi derbyn ymyriad therapiwtig gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol - sut y caiff gwybodaeth ac, os yw'n berthnasol, hyfforddiant ei ddarparu i gleifion a meddygon teulu i esbonio: o rôl a phwrpas y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a o sut mae’r gwasanaeth yn odloni gofynion y Safonau Iaith Gymraeg a'r Ddeddf Cydraddoldeb. - sut y mae cleifion a gaiff eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, a phobl berthnasol eraill, yn gwybod am eu hawl i ofyn am ail asesiad, ac yn deall y drefn - sut y dangosir canlyniadau cleifion unigol sydd wedi cael gwasanaeth IMHA. · Mae gweithgor wedi’i drefnu i ystyried: - paratoi canllawiau ychwanegol ynghylch y cymwyseddau sydd eu hangen i ymgymryd â rôl cydgysylltu gofal a datblygu’r canllawiau hynny i’w hystyried ac ymgynghori’n ehangach yn eu cylch - ffurf a chynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i holl ddefnyddwyr gwasanaethau yn ogystal ag ystyried unrhyw ychwanegiadau, er enghraifft, anghenion na chawsant eu diwallu, cyfraniad gofalwyr ac adran adolygu, at y ddogfen - y canllawiau ychwanegol ar y rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd sydd eu hangen a datblygu’r canllawiau hynny i’w hystyried ymhellach ac i ymgynghori’n ehangach yn eu cylch. · Parhau â’r Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddwyd mewn perthynas ag iechyd meddwl i feddygon teulu i hybu addysg barhaus ac i ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl a sicrhau bod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn gweithio i gefnogi hyn. · Mae data mewn perthynas ag amseroedd aros am ymyriadau seicolegol gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn cael eu cofnodi fel mater o drefn. · Mae gwybodaeth am berfformiad mewn perthynas â phryd y cynhelir ail asesiad dan Ran 3 o'r Mesur yn cael ei gasglu’n unol â safonau a bennwyd mewn mannau eraill.
Trafododd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad, a chodwyd y materion a ganlyn: · Croesawyd yr argymhelliad i gasglu data am amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol ar wahân i ddata amser aros cyffredinol. Croesawwyd hefyd yr argymhelliad i fyrddau iechyd adrodd ar fesurau canlyniad mewn perthynas â chleifion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol. · Nid yw'r adroddiad yn adlewyrchu'r pwysau mawr ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. · Nid yw'r adroddiad yn rhoi darlun clir o effaith y Mesur ar fywydau pobl – byddai’r Aelodau yn hoffi pe bai’n rhoi mwy o sylw i brofiadau pobl. Er enghraifft: A yw wedi helpu rhagor i ddychwelyd i fyd addysg, gwaith a hyfforddiant? · Mae problemau o ran y ffin rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd – ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth o ran cael cynllun gofal a thriniaeth ai beidio.
Dywedodd KD wrth yr Aelodau bod yr adroddiad llawn i’w weld ar http://gov.wales/topics/health/nhswales/healthservice/mental-health-services/measure/?skip=1&lang=cy Llywodraeth Cymru. |
|
CPGMH/NAW4/59 - Concordat gofal argyfwng iechyd meddwl i Gymru |
Camau i’w cymryd |
TRAFODWYD Rhoddodd Sara Mosely y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ddatblygu Concordat gofal argyfwng iechyd meddwl ar gyfer Cymru, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd ar y 10 Rhagfyr 2015. · Mae'n ddogfen gynhwysfawr ac mae 29 o sefydliadau wedi ymrwymo iddo, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr heddlu, byrddau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau cyfiawnder troseddol a'r trydydd sector. · Mae'n canolbwyntio ar wella cymorth ac ymyrraeth gynnar drwy ddefnyddio dull cyfannol, trawsasiantaeth i gynorthwyo pobl mewn argyfwng. · Un o’r amcanion allweddol yw lleihau nifer yr oedolion mewn argyfwng sy’n cael eu cadw yn y ddalfa a rhio gorau i’r arfer o ddefnyddio celloedd yr heddlu ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl. · Mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu i oruchwylio'r gwaith o weithredu’r Concordat ar hyd a lled Cymru. SM sy’n ei gadeirio a daw i ben ym mis Ebrill 2017. · Bydd Byrddau Partneriaeth Cyfiawnder Troseddol Iechyd Meddwl yn datblygu cynlluniau cyflenwi rhanbarthol ac yn gorcuhwylio’r modd y cânt eu rhoi ar waith yn lleol. · Bydd templed cynllun gweithredu ar gael i bob ardal ei ddilyn er mwyn sicrhau cysondeb ac at ddibenion cymharu ardaloedd Cymru. Mae nifer o grwpiau wedi dechrau cael eu cynnwys ar templedi a bydd y cynlluniau hyn yn cael defnyddio gan y grŵp gorchwyl a gorffen cenedlaethol nesaf. · Mae'r grŵp yn awyddus i weld ymchwil sy’n dangos a yw’r Concordat yn gweithio’n effeithiol ai peidio, pa faterion y mae angen eu datrys o hyd, ac ar beth y dylid canolbwyntio yn y dyfodol.
Diolchodd DR i SM am y wybodaeth.
Gellir lawrlwytho y Concordat Gofal Argyfwng i Gymru oddi ar wefan Llywodraeth Cymru |
|
Diolchodd DR i bawb am eu presenoldeb a'u cyfraniadau at y Trŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl ers etholiad diwethaf y Cynulliad yn 2011. |
|